About this course
Peth ardderchog yw eich bod chi’n awyddus i ddarganfod mwy am ragfarn ddiarwybod, oherwydd po fwyaf y byddwn ni’n dod i’w wybod am ein rhagfarnau ni, y mwyaf y gallwn ni gyfyngu ar eu heffeithiau nhw, oherwydd mae’r rhagfarnau sydd gennym ni heb wybod amdanyn nhw yn gallu arwain at wahaniaethu anfwriadol. Os yw’r syniad am ragfarn ddiarwybod yn newydd i chi (fe elwir honno weithiau yn rhagfarn ymhlyg) neu os ydych chi wedi ystyried y mater yn fanwl eisoes, po fwyaf agored y byddwn ni, y mwyaf y gallwn ni ei ddysgu sut i wrthsefyll effeithiau hynny. Yn wir, nid ymarfer i’w wneud un waith ac am byth yw rhoi ystyriaeth i’n rhagfarnau ni, ond mae’n rhaid i ymarfer o’r fath fod yn rhan o daith barhaus o ran ymwybyddiaeth a newid. Yn y cwrs hwn, fe fyddwn ni’n ystyried yr hyn y mae rhagfarn ddiarwybod yn ei olygu, ei ddylanwad, ac, yn ganolog, pa gamau y gallwn ni eu cymryd nhw i helpu cyfyngu ar wneud pethau ar sail ein rhagfarnau ni. Fe gewch chi weithio trwy’r deunydd yn eich amser eich hun, a chlicio ar unrhyw ddolenni lliw glas sydd o ddiddordeb pe byddech chi’n dymuno edrych ar y rhain gyda mwy o fanylder. Fe geir cwestiynau drwy gydol y cwrs y gallwch chi ymgysylltu â’r rhain pe byddai hynny o gymorth i chi wrth i’r hyn a ddysgwch chi ymwreiddio, ond nid cwrs sy’n cael ei asesu mohono, felly nid oes raid i chi ateb y cwestiynau os nad ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Mae rhai pobl yn cael eu heffeithio gan ragfarn yn fwy na phobl eraill. Cofiwch ofalu amdanoch chi eich hun wrth i chi fynd drwy’r cwrs hwn.Gallwch ymrestru eich hun ar y cwrs hwn trwy glicio ar y botwm ‘cofrestru’.
Requirements
Some people may have already undertaken some Unconscious Bias training with the Methodist Church, such as that found here: Introduction to Unconscious Bias – for church councils, circuit meetings and other groups (methodist.org.uk) but there is no requirement to have already done this.Languages
Mae'r fersiwn yma o'r cwrs yn Gymraeg, if it would benefit you to take the course in English please enrol in Unconscious Bias Training instead.